Hull 2 – 0 Abertawe
Collodd Abertawe eu gêm cyntaf yn y Bencampwriaeth y tymor yma oddi cartref yn erbyn Hull yn Stadiwm KC.
Sgoriodd y llanc John Bostocky y gôl gyntaf o 30 llath a sgoriodd y capten Ian Ashbee yr ar ôl camgymeriad gan gôl-geidwad Abertawe ar 49 munud.
Dyma gêm gyntaf hyfforddwr newydd yr Elyrch, Brendan Rodgers, ac fe aeth pethau o chwith cyn y chwiban gyntaf.
Doedd eu dewis cyntaf fel cefnwr asgell dde, Angel Rangel ddim yn gallu chwarae felly roedd rhaid galw ar Albert Serran ar y funud olaf.
Serch hynny rheolodd Abertawe ddechrau’r gêm a tharodd gic rydd gan David Cotterill yn erbyn y croesfar.
Roedd y ddau dîm yn chwarae 4-5-1 ond llwyddodd Abertawe i ddwyn y bêl sawl gwaith yng nghanol y cae.
Ond yn syth ar ôl i Cotterrill fethu ei gic rydd sgoriodd Hull eu gôl gyntaf yn groes i lif y chwarae.
Roedd John Bostock yn benderfynol o wneud argraff yn ei gêm gyntaf dros ei dîm a saethodd y bel heibio i’r golwr Dorus De Vries i mewn i gornel chwith uchaf y rhwyd.
O hynny ymlaen dechruodd Hull reoli’r chwarae am weddill ac roedd hi’n amlwg y byddai’r Elyrch angen ymateb yn gryf ar ddechrau’r ail hanner.
Ond dechreuodd hwnnw yn y ffordd waethaf posib wrth i Hull sgorio eto. Methodd Dorus De Vries a dal y bêl o gornel a disgynnodd hwnnw wrth draed Ian Ashbee a’i darodd i gefn y rhwyd.
Daeth Brendan Rodger a’i eilyddion Shefki Kuqi a Andrea Orlandi arno ar ôl awr er mwyn ceisio rhoi bywyd newydd i’r tîm.
Bu bron i Andrea Orlandi sgorio un cyn y diwedd ond llwyddodd Matt Duke i achub y bêl. Daliodd Hull ymlaen er mwyn sicrhau’r fuddugoliaeth.