Mae esgob o Awstria mewn dŵr poeth ar ôl dweud mai dicter Duw oedd yn gyfrifol am farwolaeth 21 o bobol yng ngŵyl techno Love Parade fis diwethaf.

Ysgrifennodd Esgob Andreas Laun o Eglwys Gatholig Salzburg bod y Love Parade yn “wrthryfel yn erbyn y greadigaeth a threfn Duw” ac yn “wahoddiad i bechu”.

Ond ychwanegodd ar y wefan Almaeneg Kath.net nad ei le o na neb arall oedd beirniadu’r meirw ac mae penderfyniad Duw oedd eu cosbi nhw.

Dywedodd fod gan Dduw’r hawl i gosbi gwrthgilwyr oedd yn troi eu cefnau ar Gristnogaeth.

Fe fu farw’r 21 o bobol ac anafwyd tua 500 ar Orffennaf 24 pan wasgodd tyrfa o bobol i mewn i dwnnel ar y ffordd i’r ŵyl yn Duisburg, yr Almaen.

Mae trefnwyr yr ŵyl eisoes wedi deud na fydd o byth yn cael ei drefnu eto.