Bu’n rhaid i fad achub dynnu pump o bobol oddi ar gwch pysgota oedd yn suddo ger Abertawe neithiwr.
Galwyd bad achub y Sefydliad Brenhinol y Badau Achub Dinbych y Pysgod tua 11pm nos Wener ar ôl clywed bod llong bysgota 30 troedfedd o hyd yn suddo ger Traeth Penmaen.
Pan gyrhaeddodd y bad achub dim ond pig blaen y cwch oedd yn ymwthio o’r dŵr ac roedd y pum aelod o’r criw yn cydio ynddo.
Saethwyd fflêr er mwyn helpu criw’r bad achub i ddod o hyd i’r llong. Diflannodd y cwch, oedd yn chwe wythnos oed yn unig, o dan y dŵr yn fuan wedyn. Aethpwyd a’r criw yn ôl i Abertawe.