Mae Moscow dan flanced o fwrllwch heddiw wrth i danau gwyllt barhau i losgi o amgylch prifddinas Rwsia.
Mae rhagolygwyr y tywydd wedi rhybuddio y bydd y don o wres sydd wedi taro’r wlad yn parhau am y dyddiau nesaf o leiaf.
Cynnodd 290 o dannau newydd yn y 24 awr ddiwethaf ac mae nifer wedi gadael Moscow neu wisgo masgiau arbennig er mwyn gwarchod yn erbyn yr aer llygredig.
Mae’n debyg bod rhaid i yrwyr droi eu goleuadau ymlaen yn ystod y dydd ac mae’r mwrllwch hyd yn oed wedi cyrraedd rheilffordd danddaearol Rwsia, un o’r dyfnaf yn y byd.
Yn y cyfamser mae dwsinau o ehediadau i mewn ac allan o’r brifddinas wedi eu hatal gan y mwrllwch.
Mae’r Almaen a Ffrainc wedi cynghori eu dinasyddion i beidio â theithio i Moscow ac mae’r Unol Daleithiau a Prydain yn ystyried eu dilyn nhw.
“Mae’r sefyllfa yn eithafol,” meddai Dr Ivan Yurlov wrth bapur newydd Kommersant y wlad. “Mae pobol yn gorfod byw dan amodau anodd iawn.”
Mae arbenigwyr iechyd wedi cynghori mai’r syniad gorau ydi gadael y brifddinas dros y penwythnos. Mae’r tanau eisoes wedi lladd 52 o bobol.