Ysgrifennodd awdur enwog o Gymru am ei “anobaith” yn dilyn marwolaeth ei ferch fach o’r frech goch, datgelwyd heddiw.

Ysgrifennodd Roald Dahl, a anwyd yng Nghaerdydd i rieni o Norwy, ei fod o’n “llipa gydag anobaith” ar ôl i’w ferch Olivia farw yn 1962, yn saith oed.

Mae’n debyg ei fod o wedi ysgrifennu am y profiad erchyll yn fuan ar ôl marwolaeth ei ferch, ond na ddaeth ei deulu o hyd i’r cofnod tan iddo farw 28 mlynedd wedyn.

Dangoswyd y cofnod, sydd wedi ei ysgrifennu mewn llyfr brys, i’r awdur Donald Sturrock wrth iddo ymchwilio ar gyfer bywgraffiad newydd i’r awdur.

Bydd y bywgraffiad yn ymddangos fel cyfres yn y Daily Telegraph ac mae’r rhan gyntaf heddiw yn datgelu poen yr awdur yn dilyn marwolaeth ei ferch.

Doedd yr awdur erioed wedi siarad yn gyhoeddus am y peth, ond wedi cyflwyno’r llyfr i blant BFG er cof am Olivia, 20 mlynedd ar ôl iddi farw.

Rhan o’r cofnod

“Cyrraedd yr ysbyty. Cerdded i mewn. Dau ddoctor yn symud tuag ata’i o’r ystafell aros.

“Sut mae hi? Mae’n rhy hwyr yn anffodus. Fe es i mewn i’r ystafell. Lliain dros ei phen hi. Doctor yn dweud wrth y nyrs i fynd allan. Rhowch funud iddo.

“Fe wnes i ei chusanu hi. Roedd hi’n gynnes. Fe es i allan.”