Fe allai toriadau yng nghyllideb y weinyddiaeth amddiffyn olygu colli swyddi 16,000 o weithwyr yn y lluoedd arfog – ac mae disgwyl mai’r Awyrlu Brenhinol fydd yn dioddef fwya’.
Mae’n bosib y bydd gan yr Awyrlu Brenhinol lai o awyrennau nag ar unrhyw adeg ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf o ganlyniad i’r torri costau.
Dywedodd papur newydd y Daily Telegraph eu bod nhw wedi gweld cynlluniau’r Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer torri nôl yn dilyn yr adolygiad gwario yn yr hydref.
Mae’r llywodraeth wedi gofyn iddyn nhw dorri nôl rhwng 10% a 20%, o’i gymharu gydag adrannau eraill yn Whitehall sy’n gorfod torri 25% i 40%.
Ond mae’r Canghellor George Osborne wedi dweud y bydd rhaid i’r Weinyddiaeth Amddiffyn dalu am adnewyddu llongau tanfor niwclear Trident o’i boced ei hun.
Yn ôl y papur newydd bydd 7,000 o staff yr Awyrlu Brenhinol yn colli eu gwaith a bydd rhaid cael gwared ar 295 o awyrennau.
Dyna fyddai’r tro cyntaf ers 1914 i’r Awyrlu Brenhinol feddu ar lai nag 200 o awyrennau brwydro.
Bydd y Llynges Frenhinol hefyd yn dioddef o’r toriadau, wrth i 100 o swyddogion uwch a 2,000 o forwyr golli eu swyddi. Bydd dwy long danfor a thair llong cyffredin yn cael mynd.
Bydd y fyddin yn colli 9,700 o gerbydau arfog, a 5,000 o filwyr, ar ôl iddyn nhw adael Afghanistan. Bydd hynny’n digwydd erbyn 2015, meddai’r Llywodraeth.