Mae Aelod Seneddol Ceidwadol blaenllaw wedi ymosod ar gynllun y Prif Weinidog i roi’r gorau i gynnig tai cyngor i bobol am oes.
Dywedodd Nadine Dorries y byddai pobol yn osgoi edrych am swyddi sy’n talu yn well pe baen nhw’n credu y byddai’r llywodraeth yn cymryd eu tai fel cosb am lwyddo.
Fe ddylai pobol barhau i gael yr hawl i brynu eu tai cyngor os oedd eu hamgylchiadau nhw’n gwella, meddai.
Awgrymodd y dylai banciau sydd wedi eu cefnogi’r ariannol gan y trethdalwyr ariannu adeiladu tai cyngor newydd er mwyn disodli’r rheini sy’n cael eu colli.
Roedd y Prif Weinidog wedi dweud y dylai teuluoedd sy’n byw mewn tai cyngor gael eu hasesu bob ychydig flynyddoedd i weld a oedden nhw dal eu hangen nhw.
Fe fyddai hynny’n sicrhau bod tai cyngor ar gael i bobol oedd mewn angen, meddai.
Ond ymatebodd partneriaid y Ceidwadwyr yn y glymblaid, y Democratiaid Rhyddfrydol, drwy ddweud nad oedden nhw’n cytuno gyda’r cynllun ac nad oedd y Prif Weinidog wedi ei drafod gyda nhw.
“Rydw i wrth fy modd bod y Prif Weinidog wedi dechrau trafodaeth ddifrifol ar fater tai cyngor. Dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd mewn 13 mlynedd,” meddai Nadine Dorries ar raglen Today Radio 4 heddiw.
“Ond mae gyda ni 1.8 miliwn o bobol sydd angen tai cyngor nawr. Dydw i ddim yn meddwl bod ail edrych ar denantiaid tai cyngor i weld a ydi eu sefyllfa nhw wedi gwella a’u symud nhw ymlaen, yn mynd i ddatrys y broblem.
“Dw i ddim yn meddwl bod dweud wrth bobol ‘mewn pum mlynedd fe allech chi golli eich cartref’ yn mynd i’w hannog nhw i geisio gwella eu hamodau.
“Mae rhoi’r opsiwn i bobol brynu eu tai cyngor yn gymhelliad iddyn nhw wella eu hamodau.
“Mae’r Llywodraeth wedi gwario biliynau ar achub y banciau, efallai ei fod o’n hen bryd i’r banciau roi rhywbeth yn ôl ac ystyried ffyrdd o ariannu tai cyngor.”