Mae’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am ladd wyth o ddoctoriaid, gan gynnwys un o Brydain, yn Afghanistan.
Daethpwyd o hyd i’r cyrff, gan gynnwys Dr Karen Woo o Brydain (dde), mewn coedwig ger tri char oedd wedi eu saethu’n ddarnau mewn ardal anghysbell yng ngogledd y wlad.
Roedd chwech o Americanwyr, dau ddyn o Afghanistan, un Prydeinwraig, ac un Almaenwr yn rhan o’r criw.
Roedden nhw’n gweithio i elusen ryngwladol oedd yn darparu gofal meddygol i bobol mewn rhanbarth gerllaw.
Daethpwyd o hyd i’w cerbydau diwrnod ar ôl i’r awdurdodau golli cysylltiad â nhw.
Dywedodd llefarydd ar ran yr elusen Gristnogol, International Assistance Mission, bod teuluoedd y rhai a fu farw wedi cael gwybod.
Daethpwyd o hyd i’r cyrff yn rhanbarth Badakhshan ond mae’n debyg bod y tîm meddygol wedi bod yn gweithio yn rhanbarth Nuristan gerllaw ac ar eu ffordd yn ôl i’r brifddinas Kabul pan ddigwyddodd yr ymosodiad dydd Mercher.
Roedd yr heddlu lleol wedi meddwl mai lladron oedd yn gyfrifol ond mae’r Taliban yn honni eu bod nhw wedi ymosod ar y “cenhadwyr Cristnogol”.
Serch hynny does gan y Taliban ddim presenoldeb mawr yn Badakhshan ac mae o’n un o’r ychydig rannau o’r wlad nad oedden nhw’n ei reoli cyn dechrau Rhyfel Afghanistan yn 2001.