Mae ynys o iâ tua hanner maint Ynys Môn wedi datod o rewlif ger yr Ynys Las, datgelwyd heddiw.
Dywedodd gwyddonwyr o Brifysgol Deleware bod yn ynys iâ tua 100 milltir sgwâr o faint, a’i fod o wedi datgysylltu o Rewlif Petermann yn gynnar dydd Iau.
Daethpwyd Trudy Wohlleben o Wasanaeth Iâ Canada o hyd i’r ynys. Dyma’r darn mwyaf o iâ i ddatgysylltu o’r Arctig ers 1962.
Mae’n bosib y bydd yr ynys yn rhewi yn ei le dros y gaeaf neu yn dianc tua’r de gan amharu ar longau sy’n stemio drwy’r ardal.
Mae Rhewlif Petermann 620 milltir o Begwn y Gogledd ac roedd gwyddonwyr wedi rhagweld y byddai darn yn torri oddi arno yn fuan, ar ôl sylwi ar holltau ar ei hyd.
Dywedodd yr Athro Andreas Muenchow o Brifysgol Deleware fod yna ddigon o ddŵr yn yr ynys iâ i gadw pob taw yn yr Unol Daleithiau yn llifo am 120 diwrnod.
Dyw hyn ddim yn brawf o newid hinsawdd, meddai, ond chwe mis cyntaf 2010 oedd y poethaf yn fyd eang ers dechrau cofnodion.