Mae Llywodraeth Cymru yn honni eu bod nhw wedi dweud o’r dechrau na fyddai eu hadeilad newydd yng Nghyffordd Llandudno yn cael ei lenwi â 650 o weithwyr yn syth.

Roedden nhw’n ymateb i feirniadaeth gan Aelod Seneddol Aberconwy, Guto Bebb, ym mhapur newydd y North Wales Weekly News.

Mae’n beirniadu’r Llywodraeth yn sgil adroddiadau mai tua 480 o bobol fydd yn gweithio yno, er bod gan yr adeilad – a gostiodd £27 miliwn i’w adeiladu – le i 650 o bobol.

Mae’n honni fod hyn yn wastraff a bod pobol gogledd Cymru wedi cael eu camarwain gan eu bod yn disgwyl y byddai 650 o swyddi yn dod i’r ardal.

Ond mae’r Llywodraeth wedi mynnu eu bod wedi dweud o’r dechrau mai lle i “hyd at 650” o bobol sydd yn yr adeilad.

Dyw hi “erioed” wedi bod yn fwriad i lenwi’r adeilad yn syth meddai llefarydd, “fel yr ydan ni wedi ei ddweud erioed”.

“Mae hyn yn benderfyniad pwysig a fydd yn caniatáu hyblygrwydd ar gyfer yr adrannau sy’n adleoli i dyfu yn y dyfodol.”

Serch hynny, mae gwefan Llywodraeth y Cynulliad eu hunain yn dweud y bydd “tua 650 o swyddi yn trosglwyddo o swyddfeydd y Gogledd a Chaerdydd a rhai swyddi newydd a gaiff eu creu er mwyn galluogi’r swyddfa newydd i weithredu”.

Mae’r swyddfa wedi’i lleoli ar hen safle Ffatri Hotpoint, Narrow Lane, Cyffordd Llandudno.

Mae oddeutu 40 o weithwyr wedi symud i mewn i’r adeilad ar hyn o bryd, meddai’r llefarydd, a bydd rhagor yn symud yno dros y misoedd nesaf.

Mae disgwyl y bydd y swyddfa newydd yn agor yn swyddogol ym mis Medi.