Mae hyfforddwr y Crusaders, Brian Noble wedi canmol ei chwaraewyr ar ôl iddyn nhw gipio buddugoliaeth 16-12 yn erbyn yr Harlequins ar y Gnoll neithiwr.
Mae hynny’n golygu bod y Crusaders wedi cyrraedd safloedd rownd wyth olaf y gynghrair am y tro cyntaf yn eu hanes.
Ond roedd y Crusaders 12-4 ar ei hol hi gydag wyth munud yn unig i fynd ac roedd angen dau gais hwyr gan Rhys Hanbury a Jason Chan i gipio buddugoliaeth i’r clwb.
“Rydan ni wedi ennill pedwar gêm yn olynol nawr ac mae o’n arferiad da,” meddai Brian Noble.
“Dydw i ddim yn meddwl bod y tyndra wedi gwneud lles i mi ond rydw i wrth fy modd gyda’r chwaraewyr!
“O edrych yn ôl ar ein man cychwyn ni ym mis Ionawr, mae o’n dangos pa mor galed y maen nhw wedi gweithio.
“Roedd y glaw yn golygu ei fod o’n gêm eithaf hyll ar adegau. Roedd y ddau dîm yn ceisio chwarae rygbi ond roedd y gêm yn araf.
“Roedd rhaid i ni ddisgwyl tan ddiwedd y gêm am ein ceisiau.”
Cyhoeddodd Brian Noble y dylai Gareth Thomas fod yn holliach ar gyfer y tair gêm olaf yn erbyn Hull, St Helens a Hull KR.