Bydd Jack Straw yn symud yn ôl i’r menciau cefn yn Nhy’r Cyffredin am y tro cyntaf ers 30 mlynedd.

Bydd yn parhau i fod yn Aelod Seneddol, ond dywedodd bod ei blaid angen “dechrau newydd”.

Mae wedi bod ar feinciau blaen ei blaid ers 1980, ac mi fuodd yn Ysgrifennydd Cyfiawnder, Cartref, a Thramor, yn ogystal ag Arweinydd Tŷ’r Cyffredin.

Bydd yn treulio mwy o amser yn ei etholaeth yn Blackburn meddai, ac mi fydd yn ysgrifennu ei hunangofiant.

Mae eisiau’r “rhyddid” i ganolbwyntio’n fwy eang ar bolisi tramor ac economaidd, ychwanegodd.

Bydd yn symud i’r meinciau cefn yn gynnar ym mis Hydref pan fydd Cabinet newydd yr Wrthblaid yn cael ei benodi ar ôl i’r Blaid Lafur ddewis arweinydd newydd.

Daeth yn Aelod Seneddol am y tro cyntaf yn 1977.