Mae enillydd cadair yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, Tudur Hallam, wedi dweud ei fod o wedi ei chael hi’n anodd ysgrifennu rhai o ddarnau dwysaf ei awdl fuddugol.

Roedd yr awdl yn deyrnged i’r diweddar Hywel Teifi Edwards. Roedd y ddau yn cydweithio yn Adran y Gymraeg yn Abertawe ac roedd Hywel Teifi wedi ei siarsio i ennill y Gadair i’r Adran.

“O’n i’n ffeili ‘sgrifennu achos o’n i’n teimlo’r galar i’r byw,” meddai Tudur Hallam. “Mae’n dod o’r galon.”

Dywedodd ei fod o’n edmygu Hywel Teifi Edwards yn fawr a’i fod o wedi bod yn “ffigwr tadol” iddo ers ymuno â’r adran Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe fel ysgolhaig ddegawd yn ôl.

Cafodd yr adran ei hail enwi yn Academi Hywel Teifi Edwards ar faes yr Eisteddfod echdoe.

Dywedodd Tudur Hallam nad oedd e wedi bwriadu cystadlu eleni ar y testun a enillodd y Gadair iddo – ‘Ennill Tir’.

“Ar ôl marwolaeth Hywel Teifi,” meddai, “ro’n i’n gwrando ar gyfweliad ohono fe’n sôn am ennill tir i’r Gymraeg yn y Cymoedd, a wedes i, ma rhaid ‘sgrifennu teyrnged iddo fe ar y testun yna.”

Er bod Hywel Teifi wedi gorffen darlithio yn Abertawe erbyn i Tudur ymuno â’r adran, “roedd yn bresenoldeb mawr ar y campws o hyd” meddai Tudur.

Roedd Hywel Teifi Edwards yn holi Tudur Hallam yn rheolaidd a oedd e wedi ceisio am y Gadair.

Fe atebodd Tudur yr her ddwywaith o’r blaen, gan geisio am y Gadair yn 2005 a 2006, a dod yn agos iawn i’r brig.

Ond eleni roedd e’n teimlo ei fod e wedi taro ar y cyfuniad iawn o grefft ac angerdd yn ei awdl fuddugol, a hynny ar destun personol iawn iddo, er cof am Hywel Tefi.