Mae cyn gadlywydd heddlu Scotland Yard sydd yn y carchar yn Sir Fynwy wedi dweud y bydd o’n siwio’r awdurdodau am beidio â’i amddiffyn rhag y carcharorion eraill.
Dywedodd Ali Dizaei, 47 oed, bod carcharorion wedi ymosod arno a’i fygwth oherwydd ei hil. Mae’n honni bod un o’r carcharorion wedi ymosod arno ddydd Sul yng ngharchar HMP Prescoed.
Mae Heddlu Gwent yn cynnal ymchwiliad ar ôl i’r ddau ddyn honni bod y llall wedi ymosod arnyn nhw ar ôl dadl ffyrnig.
Mae Ali Dizaei wedi ei symud i garchar agored arall er mwyn ei ddiogelwch ei hun. Ond mae’n honni bod ei eiddo, gan gynnwys dillad a lluniau o’i wraig a’i blant, wedi eu trochi mewn ysgarthiad cyn iddo gyrraedd.
Cafodd Ali Dizaei ei ddedfrydu i bedair blynedd yn y carchar am lygredd ym mis Chwefror.
Dechreuodd ei ddedfryd yng ngharchar Wandsworth ond cafodd ei symud i garchar Edmunds Hill ar ôl i rywun ei daro’n anymwybodol a thywallt ysgarthiad dros ei ben.
Yna cafodd y cyn swyddog ei drosglwyddo i garchar agored Prescoed yn Sir Fynwy, sy’n arbenigo mewn troseddwyr rhyw.
Mae tîm cyfreithiol Ali Dizaei yn gobeithio apelio yn erbyn ei ddedfryd, gan ddweud fod ei achos llys yn annheg a’i ddedfryd yn llym.