Mae mam wedi ei chyhuddo o lofruddio ei phlant yng Nghaeredin.
Arestiwyd Theresa Riggi, 46, a’i chyhuddo o ladd ei gefeilliaid wyth oed Augustino a Gianluca Riggi, a’i merch pump oed Cecilia Riggi.
Daethpwyd o hyd i’w cyrff yn eu cartref yng Nghaeredin yn dilyn adroddiadau ynglŷn â ffrwydrad dydd Mercher.
“Mae dynes 46 oed wedi ei harestio a’i chyhuddo o lofruddiaeth,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Lothian.
“O ganlyniad i gyflwr meddygol y ddynes dyw hi ddim yn amlwg eto pryd y bydd hi’n ymddangos o flaen llys.”
Daethpwyd o hyd i Theresa Riggi wedi’i hanafu ar y llawr y tu allan i’r tŷ, ar ôl i gymdogion ddweud ei bod hi wedi neidio o ail lawr yr adeilad.
Mae hi mewn cyflwr “difrifol ond sefydlog” yn Ysbyty Brenhinol Caeredin, meddai’r heddlu.
Roedd Llys Siryf Caeredin wedi cyhoeddi gwarant i’w harestio hi ar ôl archwiliad post-mortem o gyrff y plant.
Dywedodd tad y plant, Pasquale Riggi, bod marwolaethau’r plant “hyfryd” yn “golled anferth a trasig”.
Roedd y teulu yn dod o California a Colorado ac roedd Pasquale Riggi wedi gweithio i gwmni Shell ers 1987. Roedd o wedi bod yn byw yn Aberdeen ers sawl blwyddyn.