Ddydd Sadwrn (17 Gorffennaf) cynhaliwyd cystadleuaeth ‘Cneifio Llanbed’ ar fferm Capeli, ger y dref. Roedd arwyddocad arbennig i’r gystadleuaeth eleni gan bod Pencampwriaeth y Byd i’w chynnal yn y sioe frenhinol yn Llanelwedd yr wythnos hon, a bod disgwyl i nifer o’r cystadleuwyr heidio i Lanbed fel ymarfer. Catrin Jones fu yno ar ran Golwg360.com i weld pwy fyddai’n creu argraff cyn y gystadleuaeth fawr yn Llanewedd.
Daeth cannoedd o gneifwyr o bedwar ban byd i gystadleuaeth Cneifio Llambed echdoe ar Fferm Capeli, ger Llambed. Agorodd y diwrnod am 8.30 y bore i sied lawn o gystadleuwyr a chefnogwyr a fu yno hyd at gystadleuaeth derfynol: tîm cneifio Seland Newydd yn erbyn tîm cneifio Cymru.
Mae’r digwyddiad yn denu tyrfa niferus o gystadleuwyr a chefnogwyr yn flynyddol, ond roedd naws ryngwladol iawn i’r diwrnod eleni gan fod Pencampwriaeth Cneifio’r Byd ond ychydig ddiwrnodau, ac ychydig filltiroedd i ffwrdd.
Yn ystod y Sioe Frenhinol eleni fe fydd cneifwyr o bob cwr o’r byd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd yn yr adrannau Cynradd, Canol, Uwchradd ac Agored – a’r adrannau yn dibynnu ar safon y cneifiwr. Fel paratoad ar gyfer y Bencampwriaeth, roedd cynrychiolaeth amlwg iawn o Ffrainc, Sbaen, Norwy a Seland Newydd wedi dod i Fferm Capeli echdoe er mwyn cael ymarfer munud olaf yn erbyn eu gwrthwynebwyr – gan gynnwys y Pencampwr Byd, David Fagan, sydd yn mynd i geisio cadw ei deitl am y chweched tro eleni.
Digwyddiad teuluol
Roedd yr amrywiaeth o bobl yn y gynulleidfa yn glir ar unwaith wrth sylwi ar y Ffrancwyr yn eu berets mewn un cornel, a’r cefnogwyr lleol selog a’u capiau fflat mewn cornel arall, ond roedd digon yn gyffredin rhyngddyn nhw i gyd er hynny – ac nid y cneifio yn unig oedd hynny! Roedd y naws deuluol, glos iawn ymysg y dyrfa yn ddigon amlwg, gyda theuluoedd cyfan yn troi allan i gefnogi eu cneifwyr. Digwyddiad teuluol oedd hi, yn wir, i un teulu o Lanarth, gyda Rhodri, y tad, yn cystadlu yn yr adran Uwchradd, tra bod ei wraig Anwen a’u meibion Glyn a Gwion yn gweithio’n galed yn y cefn yn rhannu’r defaid yn y llociau.
Roedd Gareth Evans, Pencampwr Cymru, yno hefyd yn rhoi help llaw i’w frawd Gwion gyda’r defaid yn y llociau wrth iddo gneifio. Roedd y ddau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd yn yr adran Agored – gyda Gareth yn cyrraedd y chweched safle ar ddiwedd y dydd – ond roedd y cystadlu yn amlwg yn mynd law yn llaw â’r gefnogaeth i’r ddau frawd o Ddinbych.
Merched yn cystadlu
Roedd merch un-ar-hugain oed o Seland newydd yno’n cystadlu hefyd. Dyna’r tro cyntaf i Cushla Gordon gystadlu ar gneifio yn yr adran Gynradd, er ei bod wedi bod yn cneifio ers yn un-ar-bymtheg oed gyda’i thad a’i chariad – y ddau yn gneifwyr proffesiynol.
O ystyried y teimlad cyffredinol fod diwrnod Cneifio Llambed yn ddigwyddiad i’r teulu cyfan, braf oedd gweld y merched yn bwrw ati i gystadlu benben â’r dynion yn ystod y dydd. “Mae pob un yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn cneifio” meddai Cushla, “does dim ots ai dyn neu fenyw sydd wrthi. Y peth pwysig i ffermwr, ar ddiwedd y dydd, yw pa mor effeithiol yw’r cneifiwr – boed ddyn neu fenyw.”
Gyda’r Sioe Frenhinol ar fin dechrau, a Phencampwriaeth Cneifio’r Byd yn dod i Gymru, roedd y cyffro ar gyfer yr wythnos i ddod yn amlwg ar Fferm Capeli ddoe. Mae’n 16 o flynyddoedd wedi pasio ers i’r Bencampwriaeth ddod i Gymru ddiwethaf – gobeithio y bydd hynny’n ddigon o ysgogiad i dîm Cneifio Cymru wrth iddyn nhw fynd ati i herio’r byd yn y cneifio yr wythnos hon – a thrawsnewid y sgôr yn erbyn tîm cneifio Seland Newydd ddoe!
Y canlyniadau llawn
ADRAN |
1 |
2 |
3 |
4 |
5 |
6 |
Cynradd |
Brendan Graham |
Emyr Jones |
Aled Davies |
Cushla Gordon |
Scott Chapman |
Oliver Jones |
Canol |
Stephen Rowberry |
Frank Lloyd |
Geraint Evans |
Gareth Jones |
Aled Thomas |
Dewi Pugh |
Uwchradd |
Mathew Evans |
Mathew Rees |
Aled Jones |
Gareth Hughes |
Cheis Griffin |
Carwyn Edwards |
Agored |
John Kirkpatrick |
Ivan Scott |
Cam Ferguson |
Gareth Daniel |
Gavin Mutch |
Gareth Evans |
Tim Cneifio Cymru V Tîm Cneifio Seland Newydd: Seland Newydd yn ennill.