Mae heddlu sy’n ymchwilio i achos Raoul Moat wedi arestio dyn 23 oed ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud ag arfau.

Ef yw’r unfed person ar bymtheg i gael ei arestio mewn cysylltiad â’r ymchwiliad, ond hyd yn hyn, dau berson yn unig sydd wedi cael eu cyhuddo o unrhyw drosedd.

Fe ymddangosodd Karl Ness a Qhuram Awan yn Llys Ynadon Newcastle ar 8 Gorffennaf, wedi eu cyhuddo o gynllunio i lofruddio ac am droseddau yn ymwneud ag arfau.

Yn y ddalfa

Maen nhw wedi cael eu cadw yn y ddalfa, ac fe fyddan nhw’n mynd o flaen Llys y Goron Newcastle yn nes ymlaen y mis hwn.

Fe saethodd Raoul Moat ei hun yn oriau mân 10 Gorffennaf, rai oriau ar ôl cael ei gornelu gan heddlu ym mhentref Rothbury, Swydd Northumberland.

Credir ei fod wedi saethu tri o bobol wythnos cyn hynny, gan ladd un.