Elain Jones, myfyrwraig chweched dosbarth yn Ysgol Penweddig, sy’n dweud sut hwyl gafodd hi yng Ngŵyl Wakestock eleni.

Wythnos diwethaf, cefais fy mhrofiad cyntaf o ŵyl gerddoriaeth go iawn pan  benderfynais i a chriw o ffrindiau fynd i Wakestock (gŵyl gerddoriaeth a thonfyrddio mwyaf Ewrop) am y penwythnos. Doeddwn i ddim wir yn gwybod beth i’w ddisgwyl, heblaw am gerddoriaeth, pebyll a mwd.

Wrth lwc, doedd yr olaf ddim yn llawer o broblem, ac roedd y wellies yn fwy o fashion statement i gyd-fynd â’r siorts byrion a’r sannau hirion nag o anghenraid oherwydd y tywydd.

Ar ôl cyrraedd y maes pebyll a hoelio pob peg yn ei le i sicrhau y byddai ein pabell fechan yn gwrthsefyll unrhyw gorwynt a fyddai’n chwythu dros gaeau Penrhos yn ystod y nos, yr atyniad cyntaf oedd arddangosfa anhygoel gan un o deiffwnau’r Llu Awyr. Yna swper cyflym yn un o’r stondinau bwyd ar y cae, cyn mwynhau gwledd o gerddoriaeth amrywiol tan oriau mân y bore.

Ymysg y bandiau ar lwyfan Misadventures ar y nos Wener roedd Roll Deep, Mr Hudson ac N-Dubz, ac ym mhabell Relentless roedd y gynulleidfa wrth eu boddau â Skream. Ond llwyddiant mawr y noson, yn cloi’r holl gerddoriaeth am y noson gyntaf, oedd Eric Prydz ar y prif lwyfan.

Dydd Sadwrn

Gyda’r haul yn tywynnu dros arfordir Pen Llŷn ddydd Sadwrn, doedd dim amdani ond dal y bws i draeth Abersoch i dorheulo; neu losgi i’r rhai fel fi wnaeth angofio’r eli haul! Yna, ar ôl chips a chicken nuggets o’r siop sglodion, a choffi yn Angelina’s, yn ôl a fi a fy mhengliniau coch i’r ŵyl.

Band cyntaf y noson oedd Racehorses, sy’n cynnwys cyn-ddisgyblion o’n hysgol uwchradd ni, ac un o’r llawer o fandiau Cymraeg a gafodd gyfle gwych i arddangos eu cerddoriaeth o flaen cynulleidfeydd anferth yn Wakestock. Od iawn oedd eu gweld yn canu ar brif lwyfan Wakestock ar ôl arfer eu gweld mewn crys a thei o Benweddig!

Yna yn hwyrach y noson honno, cafwyd fy uchafbwynt personol i o’r ŵyl wrth i Plan B blesio ei gynulleidfa ar y prif lwyfan â chaneuon diweddar fel She Said, Stay Too Long a Prayin’, yn ogystal â hen ffefrynnau fel Kidz. Gwnaeth hefyd fersiwn ffantastig o Kiss From A Rose gan Seal.

Ar ôl Plan B, roedd rhaid brysio i’r babell fawr goch i weld diwedd set Zane Lowe, ac i fownsio lan a lawr i Pass Out a Frisky gan Tinine Tempah. I ddilyn, cafwyd un o berfformaidau mwyaf poblogaidd y penwythnos gan Chase and Status, ac yna perfformaidau gwych gan Feeder a Maximo Park ar y prif lwyfan i gloi noson llawn hwyl arall yn Wakestock.

Dydd Sul

Bore dydd Sul, doedd dim amser i gysgu’n hwyr, wrth i ni frysio i Bwllheli i wylio rownd derfynol y tonfyrddio yn y marina.

Er nad oedd amodau’r tywydd yn ddelfrydol, gwnaeth Dean Smith, Austin Hair, Philip Soven ac Aaron Rathy y gystadleuaeth yn un fyth-gofiadwy wrth iddynt neidio o don i don mor ddiymdrech, gyda Philip Sovan yn llawn haeddu’r teitl Pencampwr Wakestock 2010. Derbyniodd yr holl donfyrddwyr eu gwobrau ar y prif lwyfan nos Sul, cyn gwlychu rhes flaen y gynulleidfa â deuddeg potel o champagne.

Yn anffodus, golygodd y gwynt bod rhaid gohirio arddangosfa parasiwt y Llu Awyr nos Sul, ond sicrhaodd band yr actor Rhys Ifans – The Peth, Robyn, Pete Tong a’r Ting Tings ein bod yn cael noson olaf i’w chofio wrth i’r ŵyl ddod i ben am flwyddyn arall.

Yna, fore dydd Llun gwelwyd golygfa ddiflas iawn wrth i 25,000 o bobl ifanc flinedig a brwnt adael Penrhos wedi tridiau o fwynhau diddiwedd. Am ddeng munud i ddau roedd rhaid llusgo ein rucksacks a’n sachau cysgu i Bwllheli, a dal y trên yn ôl i realiti Aberystwyth.

Wythnos yn ddiweddarach, rydw i wedi dod dros y blinder, ac mae fy atgofion o’r penwythnos yng Ngogledd Cymru yn rhai melys tu hwnt. Os na allwch chi fynd am bedair awr ar hugain heb gawod na thoiled glân, yna nid Wakestock yw’r lle i chi. Ond i’r gweddill ohonoch chi sy’n mwynhau cerddoriaeth a chwmni da ac awyrgylch hollol unigryw, ewch amdani.

Alla i ddim meddwl am ffordd well i dreulio penwythnos braf gyda ffrindiau, ac rwy’n gobeithio mai dyma ddechrau nifer mwy o benwythnosau tebyg i ddod!