Diwrnod anodd i’r Llywodraeth heddiw, gyda’r Llys Apêl yn atal y cynlluniau i ddifa moch daear rhag mynd yn eu blaen funudau cyn i’r briffing wythnosol olaf am y tymor ddechrau. Daeth ymateb Carwyn Jones i’r cwestiwn a oedd disgwyl i’r Gweinidog Amaeth i ymddiswyddo yn gyflym a di-flewyn-ar-dafod: “Na.” Mae’n gysur mae’n debyg i Elin Jones gyda Peter Black o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am ei gwaed bod ei Phrif Weinidog yn sefyll gyda hi, ac hefyd yr Undebau. Doedd hi ddim yn hir cyn i’r datganiadau lifo mewn yn mynnu bod rhaid difa moch daear er lles gwartheg -mae miloedd ohonyn nhw’n cael eu lladd yn flynyddol oherwydd TB. Dyw’r Llywodraeth ddim yn fodlon dweud mwy ar y mater na’u bod nhw’n ystyried y dyfarniad ond yn benderfynol o ddelio â’r broblem o bTB. Fe fydd hi’n wythnos anodd i Elin Jones yn y Sioe Amaethyddol yr wythnos nesaf nawr.
Peidiwch a dangos hwn iddi heddiw, beth bynnag wnewch chi.
Mater oedd Carwyn Jones yn fwy parod i’w drafod bore ma oedd y refferendwm ar AV. Na, no nefar oedd ei neges i syniad Nick Clegg i’w gynnal ar yr un diwrnod ag etholiad y Cynulliad. Hyd yn oed mwy penderfynol yw AC Pen-y-Bont na fydd “Super Thursday*” ar Fai 5, gyda refferendwm pwerau’r Cynulliad, etholiad y Cynulliad a refferendwm AV ar yr un diwrnod. Dyna ddymuniad y Llywydd, Dafydd Elis Thomas, er nad ydw i’n siwr pam ei fod e’n teimlo rheidrwydd i fynegi ei farn ar bwnc nad oes â wnelo fe ryw lawer ag e. Dadl y Llywydd yw y bydd cynnal y tri ar yr un diwrnod yn arbed milynau o bunnoedd. Dadl y Prif Weinidog yw y bydd cynnal y tri ar yr un diwrnod yn cymysgu’r etholwyr, yn achosi cwt hir tu allan i’r blwch pleidleisio oherwydd yr amser fyddai ei angen i daro croes ar dair taflen bleidleisio wahanol ac y gallai pobol fod yn gymwys i bleidleisio mewn rhai o’r pleidleisiau ond ddim eraill oherwydd bod cofrestrau gwahanol ar eu cyfer. Amser a ddengys pwy fydd yn cael ei ddymuniad. Mae Carwyn Jones wedi ysgrifennu at David Cameron i ddweud wrtho i gadw’i ddwylo oddi ar Mai 5.
Chydig o ddryswch gyda’r Ceidwadwyr bore ma. Dwedodd Nick Bourne wrthon ni wythnos diwethaf bod y pedwar arweinydd wedi cytuno y dylai etholiad y Cynulliad gael ei wthio nol fis fel bod digon o saib rhwng y refferendwm pwerau a’r etholiad. Gwadu hyn yn llwyr wnaeth Carwyn Jones cyn i arweinydd y Ceidwadwyr ddod i ddweud helo. Beth bynnag ddigwyddodd, dyw’r Ceidwadwyr ddim yn credu bod angen newid dyddiad yr etholiad ragor achos bod y refferendwm AV wedi rhoi’r ceibosh ar hynny. Os nad ydych chi’n deall y rhesymeg, mae’n debyg does dim. Gweler sylwadau Nick Bourne ar resymeg a gwleidyddiaeth isod!
Roedd gwaith amgen yn galw adeg briffing y Democratiaid Rhyddfrydol felly alla i mo’ch goleuo chi ar farn Kirsty Williams ar hyn i gyd.
*byddai croeso mawr i syniadau o fersiwn Gymraeg o Super Thursday yn y sylwadau…