Mae Cyn Ysgrifennydd Cymru, Ron Davies wedi cadarnhau heddiw ei fod yn gobeithio dychwelyd i’r Cynulliad yn enw Plaid Cymru.
Fe ddywedodd ei fod wedi ymuno â Phlaid Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac wedi gwneud cais am enwebiad i sefyll yn ei hen sedd yng Nghaerffili yn etholiad y flwyddyn nesaf.
Mae’n debyg mae ef yw’r unig aelod o’r Blaid sy’n ceisio am y sedd.
“’Dw i’n datgan yn ffurfiol heddiw y byddaf yn ceisio am yr enwebiad,” meddai Ron Davies.
“Doedd yna erioed filiwn o filltiroedd rhyngof fi a pholisiau Plaid Cymru.”
Angen edrych i un cyfeiriad
Fe ddywedodd fod ei gyn blaid sef Llafur wedi ei rhwygo rhwng Llundain a Chaerdydd a bod “angen Plaid wleidyddol sy’n edrych i un cyfeiriad yn unig – ac nid i Lundain yw hynny.”
Fe ddywedodd Ron Davies fod ganddo berthynas dda gydag arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones a’i ragflaenydd Dafydd Wigley.
Dywedodd hefyd ei fod wedi gweithio gyda’r cenedlaetholwyr yng Nghaerffili fel aelod cabinet annibynnol mewn clymblaid yn y cyngor lleol oedd yn cael ei arwain gan Blaid Cymru.
Llun : Ron Davies ( Darren Wyn Rees, Trwydded GNU)