Mae dyn gafodd ei hyfforddi gan fyddin Afghanistan wedi lladd tri milwr Prydeinig ac wedi anafu pedwar arall cyn dianc, meddai swyddogion yn nhalaith Helmand.

Fe ddefnyddiodd y milwr roced i danio grenâd at filwyr. Fe lwyddodd i ddianc ac mae awdurdodau’r wlad yn chwilio amdano.

Mae Arlywydd y wlad, Hamid Karzai wedi ymddiheuro am y digwyddiad wrth Llywodraeth Prydain ac mae NATO a’r awdurdodau yn Afghanistan yn parhau i ymchwilio.

Angen undod

Yn y cyfamser, mae un o gadlywyddion NATO, David Petraeus wedi galw am undod yn y frwydr i ddiogelu Afghanistan.

“Rydym wedi aberthu llawer gyda’n gilydd ac mae’n rhaid inni sicrhau bod yr ymddiriedaeth yn parhau’n gadarn er mwyn trechu ein gelynion,” meddai.

Fis Tachwedd diwethaf, fe wnaeth plismon Afghan ladd pump o filwyr Prydeinig. Mae digwyddiadau o’r fath yn dangos pa mor anodd yw hyfforddi lluoedd diogelwch
Afghanistan.