Mae cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins wedi cadarnhau na fydd y clwb yn rhuthro i benodi rheolwr newydd yn dilyn ymadawiad Paulo Sousa.
Fe ddywedodd y cadeirydd fod yr Elyrch wedi gwneud tri chais swyddogol i wahanol glybiau er mwyn trafod y posibiliadau.
Mae’n debyg bod Abertawe wedi ceisio siarad gyda Paul Tisdale o Exeter, Billy Reid o Hamilton a hyfforddwr cynorthwyol Sheffield Utd, Gary Speed. Ond doedd Huw Jenkins ddim yn barod i gadarnhau’r enwau.
“R’y ni wedi cael ein siomi, ond nid wyf yn synnu ein bod wedi cael ymateb negyddol gan y clybiau hynny,” meddai Jenkins.
Dim eisiau bod yn fyrbwyll
“Gallaf sicrhau’r cefnogwyr ein bod ni’n ddigon hapus i dalu iawndal am y dyn iawn – ac mae’r clybiau’n ymwybodol o hyn.
“Ond mae’r clwb yn sefydlog gyda strwythur cadarn ac r’y ni’n benderfynol o gynnal hynny.
“Dyna pham mae’n holl bwysig i ni beidio bod yn fyrbwyll. Mae’n rhaid i ni wneud y penodiad cywir ar yr amser iawn,” ychwanegodd cadeirydd Abertawe.