Mae chwaraewr rheng ôl Cymru, Andy Powell wedi arwyddo cytundeb blwyddyn gyda Wasps ar ôl gadael rhanbarth y Gleision.
Fe gafodd ‘Y Llew’ ei ryddhau gan y Gleision ddoe er fod ganddo ddwy flynedd ar ôl ar ei gytundeb.
Dywedodd hyfforddwr y Gleision, Dai Young bod Powell “wedi colli ei ffordd braidd” y tymor diwethaf yn dilyn y digwyddiad gyda’r bygi golff.
Ond dyw Wasps heb wastraffu amser gan sicrhau llofnod y Cymro, gyda chyfarwyddwr rygbi’r clwb, Tony Hanks yn mynnu nad oes ganddo unrhyw amheuon am Powell.
“R’y ni wrth ein bodd yn cyhoeddi fod y chwaraewr rheng ôl ryngwladol talentog Andy Powell yn ymuno gyda Wasps o flaen y tymor newydd,” meddai Tony Hanks.
“Mae Andy yn symud o Gaerdydd gyda’r awydd i wthio ‘mlaen gyda’i yrfa clwb a rhyngwladol, a thra bod ei allu rygbi yn amlwg, mae tîm hyfforddi Wasps wedi hoffi Andy yn syth ac mae wedi creu argraff gyda’i frwdfrydedd i symud i Lundain ac ymuno gyda’r Wasps,” ychwanegodd cyfarwyddwr rygbi Wasps.
Gwella fel chwaraewr
Fe gafodd Andy Powell dymor anodd llynedd wrth iddo gael ei ollwng o garfan Cymru yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad am yrru bygi golff ar draffordd.
Fe gafodd ei alw ‘nôl i’r garfan ar gyfer y daith i Seland Newydd yr haf yma ond fe fethodd y daith oherwydd anaf.
Mae ‘na nifer o sïon wedi bod am ei ddyfodol gyda’r Gleision trwy gydol y tymor hefyd, gydag adroddiadau ei fod am symud i’r Super League gyda’r Crusaders.
“Yn dilyn yr holl sïon am fy nyfodol, rwyf am ganolbwyntio ar wella fel chwaraewr ac os byddaf yn cael fy newis, hoffwn chwarae yng Nghwpan y Byd,” meddai Powell.
“I gyflawni hynny, mae’n rhaid i mi chwarae’n dda dros fy nghlwb, ac rwy’n credu bydd gennyf y cyfle perffaith i wneud hynny gyda Wasps.”