Mae’r heddlu wedi cyhoeddi mai bachgen saith oed oedd y person a fu farw yn dilyn tân yng Nghaerdydd neithiwr.
Bu farw Yasin Ali o’i anafiadau.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i dŷ ar Ffordd Hafren yn Nhreganna ychydig cyn 7.00pm neithiwr.
Dyw’r heddlu ddim yn trin y tan fel un amheus ac maen nhw’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i alw’r Heddlu ar 02920 222111.