Hywel Wyn Edwards, trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n dathlu rhan bwysig o draddodiad yr Eisteddfod…
Efallai i Elfed Roberts sôn y byddai’n falch o weld rhywfaint o law yn disgyn yng Nglyn Ebwy dros yr wythnosau nesaf, ond croesi bysedd am haul ac awyr las roedden ni’n ei wneud ar gyfer Seremoni’r Cyhoeddi, a gynhaliwyd yn Wrecsam ddydd Sadwrn.
A diolch i’r drefn, haul a gawsom, gyda thywydd bendigedig – a ddim yn rhy boeth – drwy’r dydd. Tywydd Cyhoeddi perffaith. Mae’n syndod faint o waith yw trefnu’r Cyhoeddi – yn enwedig dros y blynyddoedd diwethaf wrth i’r elfen o hwyl a gŵyl ddatblygu. A chredwch chi fi, dydi hi ddim yn hawdd trefnu gorymdaith a sicrhau bod pawb yn eistedd yn y cadeiriau cywir am seremoni gyfan!
Ond mae’r Cyhoeddi’n rhan bwysig o draddodiad yr Eisteddfod, ac yn gyfle i ni ddathlu’r ffaith bod y Brifwyl yn ymweld ag ardal benodol y flwyddyn nesaf. Mae’n ffordd dda o ennyn diddordeb a chael y rheini sy’n frwdfrydig i ddod atom i wirfoddoli fel mae hi’n prysuro tua’r hydref a thros y gaeaf.
Roedd gwirfoddolwyr Wrecsam yn wych, yn stiwardio, helpu ar y stondinau, yn gwerthu’r Rhestr Testunau o gwmpas Cylch yr Orsedd, ac yn sicrhau bod gan yr Orsedd baned a bod eu penwisgoedd yn syth cyn iddyn nhw ddechrau ar yr Orymdaith. Byddai’n anodd iawn trefnu seremoni o’r fath heb gymorth ein gwirfoddolwyr, felly hoffwn ddiolch o waelod calon i chwi oll am eich cymorth a’ch cefnogaeth ddi-flino.
Un o’r elfennau pwysicaf – a mwyaf poblogaidd os yw’r prysurdeb ar ein stondinau ddiwedd y prynhawn yn arwydd o unrhyw beth – sy’n digwydd adeg y Cyhoeddi yw lansio’r Rhestr Testunau, ac yn wir, roedd pobl yn heidio i’r stondin ger Swyddfeydd y Cyngor, yn lenorion, beirdd, cerddorion ac yn aelodau o’r cyhoedd, i gyd eisiau prynu copi o rywbeth a lansiwyd mewn digwyddiad mor hynod. Fe werthwyd nifer fawr o gopїau ac erbyn heddiw, bydd wedi cyrraedd siopau ar hyd a lled Cymru ac mae modd ei brynu hefyd ar ein gwefan – www.eisteddfod.org.uk. Gobeithio’n arw y bydd ei gynnwys yn apelio atoch i gyd, ac rwy’n siwr y cawn gyfle i sôn am ambell destun a chystadleuaeth dros y misoedd nesaf, wrth i Eisteddfod Wrecsam a’r Fro agosau.
Ond am y tro, rydym ni’n troi’n golygon yn ôl i’r de ddwyrain ac i Flaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd. Ymhen pythefnos, fe fydda i’n dechrau gweithio’n y swyddfa ar y Maes, ychydig ddyddiau cyn i’r rhan fwyaf o staff eraill y swyddfa gyrraedd, ac mae hyn yn rhoi cyfle i mi gael trefn ar bethau ac i asesu popeth ar y Maes ac yn y swyddfa cyn i bawb arall gyrraedd ac i’r Eisteddfod i gyd symud i Flaenau Gwent.
Un datblygiad cyffrous ar gyfer eleni yw’r iSteddfod, sef ‘app’ ar gyfer yr iphone neu’r ipod Touch, a fydd yn sicr o apelio at ein hymwelwyr a’n cynulleidfa. Mae’n wasanaeth heb ei ail sydd wedi’i ddatblygu gan ddau ŵr ifanc, sy’n galw’u hunain yn FiaFo. Bwriad yr app yw cynnig gwybodaeth am weithgareddau o bob math ar y Maes, a rhoi gwybodaeth am leoliad stondinau – yn wir – unrhywbeth y byddwch ei angen, ac y bydd hyn i gyd ar gael yn eich iphone. Tipyn o ‘app’ a thipyn o wasanaeth i’r rheini ohonoch sy’n ymwneud ac yn mwynhau’r math yma o beth. Dwi’n siwr y byddwn yn trafod mwy ar hyn cyn i’r Eisteddfod agor ei giatiau.
Ond fe fydd y rheini ohonoch sydd heb gyrraedd yr uchel-leoedd technolegol ynsicr o fod yn falch o glywed y bydd y Rhaglen Swyddogol ar gael erbyn diwedd yr wythnos, ac fe fydd ‘highlighters’ yn cael eu defnyddio ym mhob cwr o Gymru dros y penwythnos, wrth i Eisteddfodwyr selog fynd ati i gynllunio a rhoi trefn ar eu hwythnos, gan baratoi ar gyfer Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd.