Mae gwyddonwyr Cymreig wedi cymryd rhan mewn arbrawf sydd wedi llwyddo i dynnu llun o’r bydysawd cyfan.

Roedd y gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi chwarae rhan wrth gynllunio ac adeiladu Telesgop Planck ar gyfer yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd.

Mae’r telesgop yn rhan o raglen €600 miliwn yr asiantaeth i astudio’r bydysawd cynnar, a’r llun yma yw canlyniadau cyntaf y fenter.

Mae’r telesgop wedi edrych allan i’r gofod o bob cyfeiriad, a honnir ei fod wedi gallu gweld cyn belled â’r golau hynaf yn y bydysawd.

Cymrodd y telesgop chwe mis i lunio’r ddelwedd, ac mae disgwyl i dri llun arall gael eu hanfon yn ôl i’r Ddaear erbyn 2012.

Mae’r Athro Peter Ade o Adran Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd wedi dweud fod y ddelwedd yn “drysor” o wybodaeth newydd.

Ac yn ôl Dr Chris North o’r un adran, “mi ddylai’r canlyniadau terfynol fod yn syfrdanol.”