Fe fydd yna reolau llymach ar rwydwaith camerâu’r heddlu sy’n cadw cofnod o symudiadau gyrwyr Prydain.

Mi fydd cyfreithiau newydd yn sicrhau nad ydi’r wybodaeth yn cael ei gadw am gymaint o amser ac nad ydi o’n agored i gymaint o bobol, meddai’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May.

Mae yna 4,000 o gamerâu adnabod rhifau ceir yng ngwledydd Prydain ac maen nhw’n casglu gwybodaeth fanwl ynglŷn â symudiadau dros 10 miliwn o yrwyr.

Datblygwyd y system yn 2006 er mwyn casglu gwybodaeth am ladron ceir a phobol sy’n gyrru heb yswiriant.

Mae’r wybodaeth – sy’n cynnwys rhif adnabod y car, dyddiad, amser, lle, a llun o flaen y cerbyd a’r gyrrwr a’r teithiwr – yn cael ei gadw mewn cronfa ddata am hyd at ddwy flynedd.

Yn ôl yr heddlu mae’r dechnoleg wedi bod o gymorth mawr wrth ymladd trosedd.

Ond mae’r Swyddfa Gartref eisiau cyfyngu ar nifer y bobol sydd â’r hawl i weld y wybodaeth, yn ogystal â lleihau’r cyfnod y mae’r wybodaeth yn cael ei gadw.

‘Hyder’

Dywedodd un o weinidogion y Swyddfa Gartref, James Brokenshire, wrth bapur newydd y Guardian fod angen newid y gyfraith er mwyn adfer “cefnogaeth a hyder y cyhoedd”.

Dywedodd ymgyrchwyr dros hawliau preifatrwydd o’r sefydliad Big Brother Watch, ei bod hi’n “hen bryd” newid y gyfraith.