Fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi llai o grantiau i fusnesau ac yn gwario’r arian ar fand eang a’r isadeiledd sydd ei angen i hybu’r economi yn lle, cyhoeddwyd heddiw.
Mae hynny’n newid polisi mawr, wrth i weinidogion ail ystyried sut mae’r sector breifat yn cael ei gefnogi gan y pwrs cyhoeddus yn sgîl y wasgfa ariannol.
Maen nhw’n addo band llydan i bob busnes yng Nghymru erbyn canol 2016 a pob cartref erbyn 2020. Fe fydd yna welliannau sylweddol mewn signalau ffonau symudol hefyd.
Fe fydd nifer y gweision sifil yn adran economaidd Llywodraeth y Cynulliad yn cael eu torri wrth iddo gael ei ailstrwythuro i’w wneud o’n “fwy parod i ymateb i anghenion bys busnes”.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones ei fod o’n rhy gynnar i ddweud faint o swyddi fyddai’n cael eu colli.
Ond rhybuddiodd bod angen gwneud “penderfyniadau anodd” fel ei bod hi’n bosib cyflawni’r newidiadau erbyn diwedd y flwyddyn.
Mae ei Raglen Adnewyddu’r Economi yn ffrwyth misoedd o drafod gyda busnesau, undebau ac academyddion.
Mae’n blaenoriaethu’r chwe sector sy’n fwyaf tebygol o gynhyrchu arian ar gyfer Cymru:
• Diwydiannau creadigol
• Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
• Ynni a’r Amgylchedd
• Deunydd a gweithgynhyrchu uwch
• Gwyddorau Bywyd
• Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Mae Ieuan Wyn Jones wedi dweud yn y gorffennol y byddai’n dod a’r arfer o geisio denu busnesau i Gymru gydag arian o’r pwrs cyhoeddus i ben.
Dywedodd mai nod y strategaeth a ddatgelwyd heddiw oedd gwneud Cymru “yn un o’r llefydd gorau yn y byd i fyw a gweithio”.
Fe fydd adnoddau yn cael eu targedu er mwyn “creu’r amgylchedd iawn ar gyfer llwyddiant busnesau.”
Dywedodd bod cynlluniau i gadw pobol mewn gwaith yn ystod y dirwasgiad wedi dangos llwyddiant datganoli.
“Ond a bod yn onest, dydi perfformiad economi Cymru heb gwrdd â’r disgwyliadau uchel,” meddai heddiw. “Rydym ni wedi gwneud cynnydd ond dydyn ni ddim lle’r ydan ni angen bod.”