Mae teulu merch pump oed fu farw ar ôl cael ei dal gan giât awtomatig wedi talu teyrnged iddi, heddiw.
Fe gafodd Karolina Maria Golabek, o Ben y Bont ar Ogwr, ei hanafu bnawn dydd Sadwrn wrth fynedfa fflatiau Brook Court y dref.
Fe fu farw’r ferch fach yn Ysbyty Tywysoges Cymru yn ddiweddarach.
“Mae ein hangel bach ni, Karolina Maria Golabek, wedi ein gadael ni,” meddai’r teulu.
“Roedd hi’n ferch hapus, llawn hwyl. Roedd hi’n caru anifeiliaid, tynnu lluniau a casglu blodau ar gyfer ei rheini a’i brawd.
“Hoffen ni ddiolch i bawb am eu geiriau caredig a’u cefnogaeth ar adeg anodd.
“Hoffwn ofyn am gael ein gadael mewn heddwch ar yr amser anodd yma.”
Mae Heddlu De Cymru a’r adran weithredol iechyd a diogelwch yn gweithio â’i gilydd er mwyn cynnal ymchwiliad trwyadl i’r hyn ddigwyddodd.