Mae pawb yn gwybod y bydd refferendwm ar bwerau deddfu’r Cynulliad cyn diwedd Mawrth 2011. Mae’r cyhoeddiad hwnnw wedi’i wneud. Mae Nick Bourne, arweinydd y grwp Ceidwadol yn y Cynulliad yn ffafrio refferendwm yn gynnar yn y mis ac i fod yn cyfarfod â’r Ysgrifenydd Gwladol heddiw i’w hannog i wthio etholiad y Cynulliad mlaen i Fehefin 6 i sicrhau digon o amser rhwng canfasio ar y ddwy bleidlais wahanol. Mae hawl ganddi hi i wneud hyn yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Gan fod Nick Clegg yn sôn am gynnal refferendwm ar newid y system bleidleisio ar Fai 6 hefyd, mae Bourne yn meddwl bod hyn yn fwy o reswm byth i wthio etholiad y Cynulliad mewn i fis Mehefin. Fydd e ddim yn hapus felly gyda sylwadau Jonathan Morgan AC yma. Bydd e’n hapusach gyda sylwadau Glyn Davies AS sbo.
Difyr (ond cwbl amherthnasol) bod y ddau wleidydd wedi’u cysylltu â sibrydion o fiwtini yn erbyn Nick Bourne ar ryw adeg neu’i gilydd.
DIWEDDARIAD: Mae Kirsty Williams newydd gyhoeddi mewn datganiad nad yw hi’n cytuno â chynnal tair pleidlais o fewn pedwar mis a bod dim problem gyda chynnal refferendwm AV yr un pryd ag etholiad y Cynulliad. Nick Bourne mewn man go unig felly.