Roedd staff carchar wedi rhybuddio’r heddlu bod Raoul Moat eisiau anafu ei gyn bartner Samantha Stobbart, datgelwyd heddiw.

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Northumbria bod y wybodaeth wedi dod o Garchar Durham a bod yr achos wedi ei gyfeirio at Gomisiwn Cwynion yr Heddlu.

Roedd Carchar Durham wedi rhybuddio’r heddlu dydd Gwener, diwrnod ar ôl i Raoul Moat gael ei ryddhau o’r carchar. Y diwrnod canlynol saethodd ei gyn gariad Samantha Stobbart a’i phartner Chris Brown.

Fe fu farw Chris Brown ond mae Samantha Stobbart wedi dod at ei hun ar ôl bod mewn cyflwr bregus ac wedi apelio ar Raoul Moat i ildio i’r heddlu.

“Petai ti dal yn fy ngharu i a’r babi fyddet ti ddim yn gwneud hyn,” meddai hi.

Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Neil Adamson bod yr heddlu wedi derbyn nodyn o fewn y 24 awr diwethaf gan Raoul Moat.

Ychwanegodd fod yna awgrym y byddai’n mynd ar ôl pobol eraill a bod nifer ohonyn nhw’n cael eu gwarchod gan yr heddlu ar hyn o bryd.

Y saethu

Dydd Sadwrn saethodd Raoul Moat ei gyn gariad Samantha Stobbart, 22, a’i chariad Chris Brown, 29, drwy ffenestr ei thŷ.

Yna saethodd heddwas, David Rathbone, sy’n brwydro am ei fywyd yn yr ysbyty yn Newcastle ar hyn o bryd.

Ffoniodd y cyn fownser , oedd yn credu bod Samantha Stobbart yn cael perthynas gyda heddwas, yr heddlu dydd Sul gan ddweud nad oedden nhw’n ei gymryd o ddifri.

Mae yna bryderon bod Raoul Moat eisiau gorfodi’r heddlu i’w saethu yn farw.

Honnodd hanner chwaer Samantha Stobbart, Kelly Stobbart, y byddai’n well gan Raoul Moat gael ei ladd na chael ei arestio eto.

Cadarnhaodd Heddlu Northumbria eu bod nhw wedi galw heddweision arfog o heddluoedd eraill er mwyn helpu i chwilio am Raoul Moat.