Mae Ymddiriedolaeth y BBC wedi cytuno bod angen torri 25% ar y nawdd y mae gwefan newyddion y gorfforaeth yn ei gael erbyn 2013.
Mae’r ymddiriedolaeth hefyd wedi cefnogi cau gorsaf radio Asian Network ond wedi dweud y dylai gorsaf radio 6 Music gael ei gadw ar agor.
Roedd cyhoeddiad Ymddiriedolaeth y BBC yn ymateb i Adolygiad Strategol y cyfarwyddwr-cyffredinol Mark Thompson, ddatgelwyd ym mis Mawrth.
Mae’n rhan o gynllun y gorfforaeth ar gyfer gweddill cyfnod y siarter presennol, sy’n dod i ben yn 2016.
“Fe fydden ni’n croesawu canolbwyntio’n gliriach ar wasanaethau cyhoeddi ar-lein fel newyddion, chwaraeon a thywydd ochr yn ochr â iPlayer,” meddai’r Ymddiriedolaeth.
“Mae angen canolbwyntio’r ymdrech a’r nawdd ble mae gan y BBC rôl glir i’w chwarae a chael gwared ar y cynnwys sydd ddim yn darparu gwasanaeth cyhoeddus.”
Dyma’r cwtogi mwyaf ers i’r darlledwr lansio 88 mlynedd yn ôl.
Dywedodd Mark Thompson ym mis Mawrth bod y BBC wedi tyfu’n rhy fawr, a bod angen torri’n ôl er mwyn rhoi cyfle i gystadleuwyr masnachol.