Mae Morgannwg yn cymryd hoe o’r gêm Ugain20 wrth iddynt ymweld â Swydd Northampton ar gyfer gêm Pencampwriaeth y Siroedd yn Wantage Road heddiw.
Fe orffennodd y Dreigiau eu hymgyrch Ugain20 am y tro gyda buddugoliaeth o bum wiced yn erbyn Surrey ddoe.
Bydd tîm Matthew Maynard yn gobeithio cynnal y safon honno wrth iddynt droi eu sylw at y bencampwriaeth. Maen nhw ar frig y tabl ar hyn o bryd.
Mae’r ddau dîm eisoes wedi cwrdd y tymor hwn. Enillodd Morgannwg yn Stadiwm SWALEC ym mis Mai.
Ond dyw ymweliadau diweddar y Dreigiau â Swydd Northampton heb fod yn llwyddiannus iawn. Dydi Morgannwg heb ennill yno ers 2003.
Roedd Morgannwg wedi enwi carfan 13 dyn ar gyfer y gêm, oedd yn cynnwys y troellwr, Robert Croft.
Ond er ei fod o’n gobeithio cipio ei filfed wiced yn ei yrfa, dyw Croft heb ei gynnwys yn y tîm.
Mae gan Croft 997 o wicedi ar hyn o bryd, a’r Cymro fyddai’r chwaraewr cyntaf erioed i gipio 1,000 o wicedi a 10,000 o rediadau i Forgannwg.
Tîm Morgannwg
Gareth Rees, Mark Cosgrove, Jamie Dalrymple, Ben Wright, Jim Allenby, Tom Maynard, Mark Wallace, James Harris, Dean Cosker, Will Owen, David Harrison.