Mae’r Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, wedi cymeradwyo datblygu dwy ganolfan yng Ngogledd Cymru ar gyfer gwasanaethu, glanhau ac ail-stocio ambiwlansys.
Bydd y cynlluniau, sy’n costio oddeutu £12.8 miliwn, yn cynnwys buddsoddiad o fwy na £9.8 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Bydd y Canolfannau Adnoddau Ambiwlans bwrpasol yn cael ei lleoli ar safle gorsaf heddlu a gorsaf dân Wrecsam, a Depo Ymbaratoi yn Sir y Fflint. Bydd y ddau’n darparu cyfleusterau i lanhau ac ail-stocio ambiwlansys.
Y nod ydi torri 3,000 awr y flwyddyn oddi ar nifer yr oriau y mae parafeddygon yn ei dreulio’n paratoi cerbydau cyn dechrau shifft, meddai Llywodraeth y Cynulliad.
“Bydd modd glanhau’r cerbydau’n drylwyr, a bydd hynny’n golygu safonau uwch o ran hylendid,” meddai llefarydd ar eu rhan.
Bydd rhannu safle â’r heddlu a’r gwasanaeth tân hefyd yn fanteisiol o ran rhannu adnoddau ac yn fodd i ddatblygu perthnasau gwaith agosach a rheoli digwyddiadau’n well, meddai.
‘Rhyddhau amser’
“Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi’r gwasanaeth ambiwlans i gyflwyno cyfleusterau newydd a mwy addas er mwyn gwella’r gwasanaethau ambiwlans rheng flaen yng ngogledd Cymru,” meddai Edwina Hart.
“Bydd hyn yn rhyddhau amser er mwyn i barafeddygon allu canolbwyntio ar ymateb i alwadau brys.
“Yn y pen draw, bydd hyn yn gwella’r gofal i gleifion ac yn lleihau’r pwysau ar griwiau ambiwlans.
“Rwy’n falch iawn bod y gwasanaeth ambiwlans yn cydweithio â gwasanaethau brys eraill ar draws gogledd Cymru ar y cynigion hyn. Mae hynny’n unol ag agenda Creu’r Cysylltiadau i gysylltu gwasanaethau cyhoeddus a sicrhau gwerth am arian wrth fuddsoddi.”