Mae blaenasgellwr y Gweilch, Jerry Collins, wedi dweud ei fod yn gobeithio bod yn holliach erbyn dechrau’r tymor yn dilyn llawdriniaeth ar ei ben-glin a’i gefn.
Mae cyn chwaraewr rhyngwladol Seland Newydd wedi dweud ei fod yn gweithio’n galed i fod yn ffit erbyn mis Medi ac yn edrych ‘mlaen i wisgo crys y Gweilch unwaith eto.
“Rwy’n teimlo’n weddol o ystyried. Dyw e ddim wedi bod yn hawdd cael llawdriniaeth ar ddau rhan o’r corff, ond fe aeth y ddau yn iawn,” meddai Jerry Collins.
“Mae’r tîm meddygol yn hapus, ac maen nhw wedi gwneud job dda ac mae popeth yn gwella.
“Rydw i eisoes wedi dechrau gweithio’n galed i fod yn barod ar gyfer dechrau’r tymor. Ond fe fydd y cyfan yn dibynnu ar sut ydw i’n gwella.
“Roeddwn i wedi mwynhau chwarae’r tymor diwethaf ac rydw i am fod yn ôl cyn gynted â phosib.
“Mae Cwpan y Byd yn agosáu, a bydd nifer o chwaraewyr yn gwneud ymdrech arbennig. Felly rwy’n edrych ‘mlaen i’r tymor newydd.”