Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal protest dros y penwythnos i ddangos eu gwrthwynebiad tuag at gynlluniau i adrefnu addysg ysgol gynradd yn ardal y Bala.
Bydd rali ger argae Tryweryn, cyn iddyn nhw gerdded tua 70 o filltiroedd i gopa’r Wyddfa ac yna i lawr i swyddfeydd Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon, erbyn dydd Iau 15 Gorffennaf.
Bryd hynny bydd holl gynghorwyr yr awdurdod yn pleidleisio ar ddyfodol Ysgol y Parc. Mae Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc yr awdurdod eisoes wedi derbyn argymhelliad i gau’r ysgol.
Mae’r ymgyrchwyr yn bwriadu cludo cerdyn post “anferth” gyda nhw, efo enwau pobol sy’n gwrthwynebu cau’r ysgol arno.
Ac ar y ffordd, maent am osod baner â’r geiriau, “Cadwn ein hysgolion a’n pentrefi Cymraeg”, ar gopa’r Wyddfa.
‘Trist iawn’
Wrth gyfeirio at foddi pentref Tryweryn, dywedodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis, mai “trist iawn yw ystyried mai Corfforaeth Lerpwl a ddinistriodd gymuned Gymraeg lleol hanner canrif yn ôl”.
“Ond yn awr y mae ein pobol ein hunain yn bygwth tanseilio cymuned Gymraeg trwy gau’r ysgol sy’n gonglfaen i fywyd Parc,” meddai.
“Ar y ffordd, byddwn yn ymweld â phentrefi Cymraeg eraill yng Ngwynedd a Chonwy y mae bygythiad i’w hysgolion.
“Gan fod swyddogion Gwynedd wedi perswadio Bwrdd y Cyngor i dderbyn eu hargymhelliad, cydnabyddwn fod gyda ni fynydd i’w ddringo wrth geisio perswadio’r Cyngor llawn i beidio â bradychu pobol y Parc.
“Fel symbol o’n parodrwydd i ddringo’r mynydd hwn, bydd y daith gerdded yn mynd i gopa’r Wyddfa ar y ffordd i Gaernarfon yn hytrach na cherdded o gwmpas y mynydd.“
Ad-drefnu addysg
Mae cau Ysgol y Parc yn rhan o argymhellion sy’n rhan o strategaeth ad-drefnu ysgolion Cyngor Gwynedd.
Mae’r Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc wedi derbyn argymhelliad i gau’r ysgol erbyn Medi 2012, gan gynnig lle i blant y dalgylch yn Ysgol O M Edwards, Llanuwchllyn.
Mae’r pwyllgor hefyd wedi derbyn argymhellion i sefydlu campws gydol oes newydd yn nhref Y Bala, a fyddai’n agor yn ystod blwyddyn academaidd 2014-15, a fyddai’n cynnwys ysgolion Beuno Sant, Bro Tegid, ac Ysgol Uwchradd Y Berwyn.