Beth wnewch chi o benderfyniad y Gweinidog Trafnidiaeth i drydaneiddio’r rheilffordd o Lundain i Gaerdydd? Efallai y dylid bod yn ddiolchgar am unrhyw friwsion sy’n disgyn oddi ar fwrdd Llywodraeth San Steffan pan mae arian cyhoeddus mor brin.

Ond mae hi braidd yn siomedig na fydd Abertawe – a thu hwnt – yn cael eu cynnwys ar y rheilffordd drydan. Fel y cynllun i greu rheilffordd cyflymder uchel o Firmingham i Lundain, heb atal yn unrhyw le arall, onid cysylltu’r dotiau rhwng dinasoedd sydd eisoes yn weddol gefnog yw hyn?

Oni fyddai gwario £1 biliwn ar wella’r ffyrdd yng ngorllewin Cymru – sydd mor dlawd â Gwlad Pwyl erbyn hyn mae’n debyg – yn fodd gwell o wario’r arian nag torri 20 munud oddi ar siwrne dyn busnes sydd am fynd o un brifddinas i’r llall?

Efallai petai’r rheilffordd yn ymestyn i Gaerfyrddin fe fyddai’n gwneud gwahaniaeth economaidd go iawn. A chymryd bod y damcaniaeth economaidd bod cysylltu lle cyfoethog i le tlotach bob tro o fudd i’r lle tlotach yn gywir. Beth sy’n atal pobol Caerdydd rhag dal y trên i Lundain i fynd i’r gwaith bob bore, a throi ein prifddinas yn dref cymudwyr mawr? I’r pant y rhed y dŵr, wedi’r cwbl!