Mae arglwydd mwyaf blaenllaw’r Blaid Lafur wedi dadlau y dylai tymor senedd San Steffan barhau am bedair blynedd yn hytrach na pum mlynedd.
Fe fydd y Mesur Seneddau sy’n mynd drwy Dy’r Arglwyddi ar hyn o bryd yn gosod cyfnod penodol pum mlynedd o hyd ar gyfer bob senedd.
Yn y gorffennol y Prif Weinidog oedd yn penderfynu pryd i ddiddymu senedd, ond roedd rhaid cynnal etholiad bob pum mlynedd o leiaf.
Os yw’r mesur yn cael ei wneud yn ddeddf Mai 7 2015 fydd dyddiau’r etholiad nesaf – yr un diwrnod ag etholiadau’r Cynulliad.
Mae hynny wedi cythruddo rhai o wleidyddion Cymru sy’n pryderu y bydd yr Etholiad Cyffredinol yn talu cysgod dros y bleidlais yng Nghymru.
Mae’r Arglwydd Falconer am weld senedd pedair blynedd – yr un hyd a’r Cynulliad yng Nghymru, ond fe fyddai’r etholiad yn cael ei gynnal blwyddyn ynghynt.
“Fe fyddwn ni’n gwneud ein gorau glas i ddiwygio’r mesur a gwneud iddo weithio, fel ei fod yn gwneud cyn lleied o ddifrod a phosib i’n cyfansoddiad,” meddai’r Arglwydd Falconer.
“Ni yw’r gwarcheidwaid sy’n penderfynu beth yw hyd y tymhorau seneddol.”