Karl-Theodor zu Guttenberg
Mae Gweinidog Amddiffyn yr Almaen wedi ymddiswyddo ar ôl cael ei gyhuddo o lên-ladrad.

Fe ddywedodd Karl-Theodor zu Guttenberg ei fod wedi penderfynu rhoi’r gorau i’w swydd ar ôl cwestiynau cyson am ei waith ymchwil PhD.

Dywedodd fod y sylw yn bygwth talu cysgod ar ei waith o ail-drefnu byddin yr Almaen yn Afghanistan.

Roedd Prifysgol Bayreuth wedi cymryd teitl academaidd Karl-Theodor zu Guttenberg oddi arno’r wythnos diwethaf.

Dywedodd y brifysgol fod y cyn-Ddr. wedi “troseddu’n ddifrifol” drwy beidio â chydnabod ei ffynonellau.

Gwadodd y gweinidog yr honiadau yn y lle cyntaf cyn dweud y byddai’n rhoi’r gorau i ddefnyddio ei deitl dros dro tra bod y brifysgol yn ymchwilio mewn i’r cyhuddiadau.

Roedd y Canghellor, Angela Merkel, wedi cefnogi’r gweinidog gan ddweud ei bod “wedi’i benodi’n Weinidog Amddiffyn ac nid yn gynorthwyydd academaidd”.

Ond dyw’r sgandal heb ddiflannu ac roedd yna bryderon y gallai’r honiadau yn ei erbyn effeithio ar ganlyniadau etholiadau yn yr Almaen.

“Dyma’r penderfyniad anoddaf i fi ei gymryd yn fy mywyd,” meddai Karl-Theodor zu Guttenberg adeg ei ymddiswyddiad.

Datblygodd gyrfa wleidyddol Karl-Theodor zu Guttenberg yn gyflym dros y ddwy flynedd diwethaf.

Fe wnaeth enw i’w hun yn Weinidog Economaidd cyn cael ei benodi’n Weinidog Amddiffyn yn dilyn etholiad 2009.