Gorsaf drenau Caerdydd
Fe fydd rheilffordd De Cymru’n cael ei thrydaneiddio cyn belled â Chaerdydd – ond nid i Abertawe.
Fe ddaeth y cyhoeddiad y prynhawn yma gan yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth ac mae wedi cael ei groesawu gan Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan.
“Mae estyn y trydaneiddio i dde Cymru’n cydnabod bod gwell system reilffyrdd ac amseroedd teithio byrrach yn elfennau allweddol yn y gwaith o gael adfywiad economaidd llwyddiannus yng Nghymru,” meddai.
Fe gadarnhaodd hefyd y bydd Llywodraeth San Steffan yn trafod gyda Llywodraeth y Cynulliad ynglŷn â’r posibilrwydd o drydaneiddio rhai llinellau allan o Gaerdydd – i’r Cymoedd a Bro Morgannwg.
Fe fyddai’r syniad o estyn y trydaneiddio ymhellach i Abertawe’n parhau i gael ei adolygu, meddai. Fe ymosododd ar y Llywodraeth Lafur am wneud dim ynglŷn â’r mater yn ystod eu 13 mlynedd mewn grym.
Fe ddywedodd y byddai Abertawe hefyd yn elwa o’r trydaneiddio i Gaerdydd, trwy amseroedd teithio byrrach a gwell trenau a cherbydau.