Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi wfftio awgrym fod rhannau o Gymru yn dlotach nag dwyrain Ewrop.
Mae ffigyrau newydd yn awgrymu bod Cynnyrch Domestig Gros poblogaeth gorllewin Cymru a’r cymoedd yn 71%, o’i gymharu â 77% yn Centralny, Gwlad Pwyl.
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, bod yr ystadegyn yn brawf o “fethiant Llywodraeth y Cynulliad”.
Ar ôl denu £5 biliwn o nawdd gan yr Undeb Ewropeaidd fe ddylai pobol Cymru ddisgwyl y bydden nhw’n gyfoethocach na phobol Gwlad Pwyl, Romania a Bwlgaria, meddai.
Ond dywedodd Carwyn Jones bod ystyried ffigyrau Cynnyrch Domestig Gros yn fodd gwallus o fesur tlodi yng Nghymru.
“Y gwahaniaeth rhwng y ddwy wlad ydi fod Cynnyrch Domestig Gros yn cael ei fesur lle mae pobol yn gweithio,” meddai.
“Rydyn ni’n gwybod bod nifer o bobol yng ngorllewin Cymru a’r Cymoedd mewn swyddi da ond eu bod nhw’n gweithio y tu allan i’r ardaloedd rheini.”
Dywedodd Carwyn Jones na fyddai cyflogau Aelodau Cynulliad o’r cymoedd a gorllewin Cymru yn cael eu hystyried am eu bod nhw’n cael eu talu o Gaerdydd.
“Os ydych chi’n mesur lle mae pobol yn byw mae’r ffigwr yn wahanol ac yn fwy cywir,” ychwanegodd.