Ces i sioc a hanner tra’n lolian yn yr ardd yn darllen y papur ddoe. Rhaid cyfaddef, rwy’n ffan o’r Sunday Times. Y cylchgronau sy’n denu fy sylw i gyntaf fel arfer ond ddoe, tra’n llofian trwy’r News Review, des i o hyd i bennawd annisgwyl ar dudalen naw, colofn Chris Woodhead y cyn arolygydd ysgolion. ‘How dare the state attack Welsh-language teaching’ oedd y pennawd hwnnw, ac roedd ymateb cryf iawn gan Chris Woodhead i ebost Susan Davies o Gaerdydd oedd yn honni bod ymgyrchoedd i gadw ysgolion Saesneg ar agor yn curo’r angen am adeiladau digonol i ysgolion Cymraeg yn y brifddinas.
“The general point here is that politicians and their bureaucrats do not know best. If parents want their children to be educated in…a school that teaches using the Welsh language, the state should do its level best to meet these perfectly legitimate aspirations… I find the arrogance of bureaucrats who wish to stop children learning the Welsh language deeply shocking.”
Dim rhyfedd bod Carwyn Jones yn ffeindio’i hunan yn yr ysbyty gyda stumog tost os mai dyna’r ymateb i’w benderfyniadau.