Mae llifogydd yn ne China wedi lladd 175 o bobol, ac mae 107 o bobol yn dal ar goll wrth i fwy o stormydd fygwth yr ardal.
Mae miloedd o gartrefi wedi eu difetha ac fe allai’r difrod gostio 14 biliwn yuan (£1.4 biliwn), yn ôl y Weinyddiaeth Dŵr.
Mae’r llifogydd wedi effeithio ar fwy nag 10 miliwn o bobol ers i’r glaw trwm daro ar 13 Mehefin.
Ar hyn o bryd mae achubwyr yn ceisio helpu’r bobol sydd wedi eu dal yn eu cartrefi gan y llifogydd.
Mae yna fwy o stormydd ar y ffordd, yn ôl Swyddfa Dywydd China.
Mae China yn dioddefllifogydd bob blwyddyn ar hyd y Yangtze ac afonydd mawr eraill, ond mae’r llifogydd eleni wedi bod yn arbennig o ddrwg, gan daenu ar draws naw rhanbarth ar hyd y de ac arfordir y dwyrain.
Daw’r llifogydd ar ôl y sychder gwaethaf mewn canrif yn rhanbarthau’r de ac ardaloedd Yunnan, Guizhou a Guangxi.
Mae wedi gadael miliynau heb ddŵr yfed ac wedi dinistrio 12 miliwn acr o gnydau.