Mae dogfennau newydd gan BP yn awgrymu y gallai bron ddwywaith mwy o olew fod yn gollwng i mewn i Gwlff Mecsico nag yr oedden nhw wedi ei amcangyfrif cyn hyn.

Mae dogfen fewnol a gyhoeddwyd gan Gyngreswr Massachusetts, Ed Markey, yn dangos mai’r darlun gwaethaf posib fyddai bod 4.2 miliwn galwyn yn gollwng pob dydd – 2.5 miliwn galwyn oedd yr amcangyfrif ucha’ cyn hyn.

Dywedodd BP y gallai cymaint â hynny ollwng pe bai’r offer sy’n ceisio atal yr olew yn cael ei dynnu oddi ar y bibell.

Roedd BP wedi darparu’r dogfennau ar gyfer swyddogion ffederal yr Unol Daleithiau ym mis Mai, a dywedodd llefarydd ar ran y cwmni nad oedd unrhyw gynlluniau i dynnu’r offer oddi ar y bibell.

Mae faint o olew sy’n gollwng i’r Gwlff wedi bod yn bwnc dadleuol ers i lwyfan olew Deepwatre Horizon ffrwydro ar 20 Ebrill.

‘Codi cwestiynau’

“Mae’r ddogfen yn codi cwestiynau ynglŷn â beth oedd BP yn ei wybod a phryd,” meddai Ed Markey.

“Mae’n amlwg o’r dechrau nad ydi BP wedi bod yn agored gyda’r Llywodraeth na phobol America ynglŷn â maint y llif olew.”

Amcangyfrif BP ar ddechrau’r trychineb oedd bod 1,000 casgen o olew yn gollwng i’r Gwlff – erbyn hyn yr amcangyfrif ydi tua 60,000 o gasgenni.

“Dydw i ddim yn meddwl ein bod ni wedi amcangyfrif rhy isel,” meddai Toby Odone, llefarydd ar ran BP, wrth bapur newydd y Telegraph. “Rydym ni wedi dweud erioed y bydden ni’n delio gyda faint bynnag o olew sy’n cael ei ollwng.”