Fe fydd Cyllideb Argyfwng George Osborne yfory yn arafu twf yr economi a thorri swyddi yn y byr dymor, yn ôl ffynonellau o fewn y Llywodraeth.

Ond maen nhw’n honni hefyd y bydd y mesurau llym i leihau’r diffyg ariannol yn golygu fod yr economi mewn gwell siâp ymhen pum mlynedd.

Yn ôl papur newydd y Financial Times, mae gweinidogion y Trysorlys yn derbyn y bydd y Gyllideb yn gwaethygu pethau cyn eu gwella.

Fe fydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidol newydd yn dweud eu bod nhw’n disgwyl i’r economi dyfu’n arafach wrth i’r llywodraeth wario lai a chynyddu trethi.

Ond mae’r Ceidwadwyr yn gobeithio mai dim ond yn y tymor byr y bydd yr economi’n dirywio ac na fydd y Blaid Lafur yn gallu dadlau eu bod wedi torri’n rhy gyflym a chreu ail ddirwasgiad.

‘Annheg’

Mae un o ymgeiswyr arweinyddol y Blaid Lafur, Ed Balls, wedi rhybuddio y bydd y toriadau yn “galed” ac “annheg” ac yn arwain at golli swyddi a dirwasgiad fel y gwelwyd yn y 1930au.

Bydd y Canghellor yn mynd ymhellach na’r disgwyl gyda’r toriadau yn y Gyllideb yfory, yn ôl y Finacial Times.

Ond fe fydd yna rai consesiynau, fel rhewi biliau trethi cyngor yn Lloegr yn 2011/2012 ac o bosib yn y flwyddyn ariannol nesaf hefyd.

Mae George Osborne wedi amddiffyn ei fesurau “caled ond teg” gan rybuddio y byddai’r wlad yn “dadfeilio” pe na bai’n torri’r diffyg ariannol ar frys.

Tâl yn y sector cyhoeddus a budd-daliadau “tu hwnt i reolaeth” fydd yn wynebu’r wasgfa fwyaf, meddai ddydd Sul.