Fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi strategaeth newydd ynglŷn â delio â gwastraff o gartrefi.

Ond eisoes, mae’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Amgylchedd wedi galw am newid yn ein ffordd o fyw.

“Rhaid i ni newid ein hagwedd at wastraff achos allwn ni ddim parhau gyda chymdeithas taflu-popeth sy’n anfon sbwriel i’w gladdu,” meddai’r Gweinidog Amgylchedd, Jane Davidson.

“Mae Cymru eisoes ar y blaen ac fe fydd ein strategaeth ni yn adeiladu ar hynny.”

Targedi

Mae gan Gymru dargedi uchel ar gyfer ailgylchu – 70% erbyn 2025 – ac mae’r Llywodraeth yn honni bod pob cyngor yn cynnig gwasanaeth i gasglu gwastraff bwyd.

Yn ôl ffigurau’r Llywodraeth, mae pob teulu yng Nghymru’n taflu gwerth £50 o fwyd bob mis ac mae 90% o bopeth sy’n cael ei brynu yn troi’n wastraff o fewn chwe mis.

“Fe fydd mabwysiadu agwedd fwy cynaladwy at ddelio gyda gwastraff yn dod â buddsoddiadau newydd i Gymru a swyddi cynaladwy,” meddai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Llun: Jane Davidson – eisiau newid agwedd