Fe fyddai llawer llai o bobol ifanc yn mynd i brifysgol petai ffioedd yn codi’n sylweddol wedi arolwg y Llywodraeth.

Ac yn ôl arolwg o fwy na 2,000 o ddisgyblion ysgol uwchradd, fe fyddai’r cwymp yn fwy eto ymhlith pobol ifanc o gartrefi tlotach

Mae Ymddiriedolaeth Sutton wedi cynnal ymchwil ymhlith pobol ifanc rhwng 11 ac 16 oed i weld beth yw eu gobeithion ynglŷn ag addysg uwch ac mae’n dangos newid mawr os bydd y gost yn codi.

Ar hyn o bryd, chaiff prifysgolion ddim codi mwy na £3,225 y flwyddyn ond mae llawer ohonyn nhw’n pwyso am gynnydd.

Mae Grŵp Russell o’r prifysgolion pwysica’ – sy’n cynnwys Prifysgol Caerdydd – yn galw am yr hawl i amrywio ffioedd o gwrs i gwrs.

Yr arolwg

Dyma ganlyniadau’r arolwg:

• Gyda ffioedd fel y maen nhw, fe fyddai 80% yn mynd i brifysgol.
• Os bydd ffioedd yn codi i £7,000 y flwyddyn, dim ond 45% a fyddai’n disgwyl mynd.
• Ymhlith pobol ifanc lle mae’r ddau riant yn ddi-waith, fe fyddai’r ffigwr yn cwympo i 35%.
• Pe bai ffioedd yn codi i £10,000, fe fyddai’r ffigwr yn cwympo i 26%.

Fe fydd comisiwn dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Browne yn gwneud argymhellion erbyn yr hydref a’r disgwyl yw y bydd yn argymell codi’r uchafswm.

“Fe fydd llawer o ddisgyblion yn cael eu siomi,” meddai Syr Peter Lempl, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Sutton. “Rhaid i ni wneud yn siŵr nad pobol o deuluoedd tlotach sy’n colli fwya’, a nhwthau eisoes wedi eu tan gynrychioli mewn prifysgolion.”

Llun: Prifysgol Caerdydd