Mae Brasil wedi sicrhau eu lle yn ail rownd Cwpan y Byd wedi buddugoliaeth o 3 – 1 yn erbyn y Traeth Ifori yn y Soccer City heno.

Fe seliodd y gwŷr o Dde America hefyd eu statws fel y ffefrynnau i godi’r gwpan yn Johannesburg ar Orffennaf 11.

Fabiano’n ffab

Ymosodwr Seville, Luis Fabiano oedd yr arwr gyda dwy gôl i’w wlad. Daeth y gyntaf yn yr hanner cyntaf – ergyd bwerus heibio i Copa yn y gôl wedi 25 munud – ond yr ail oedd yr orau.

Daeth honno bum munud wedi’r hanner wrth iddo fflicio’r bêl dros ben un amddiffynnwr, ac yna un arall, cyn taranu’r bêl i’r rhwyd gyda’i droed chwith. Chwarae ymosodol, ac athrylith unigol, Brasil ar ei orau.

Ychwanegodd Elano drydedd i dîm y Samba wedi 63 munud cyn i ymosodwr Chelsea, Didier Drogba sgorio gôl gysur i’r Traeth Ifori gydag un ar ddeg munud yn weddill.

Colli Kaká

Yna, yn y munudau olaf, daeth moment mwyaf dadleuol y gêm wrth i seren Brasil, Kaká, gael ei anfon o’r maes. Gwelodd chwaraewr Real Madrid ei ail garden felen o’r gêm wrth i Kader Keita redeg i mewn i’r chwaraewr, gan ddisgyn i’r llawr fel sach o datws yn gafael yn ei wyneb.

Roedd lluniau’r ailchwarae yn profi nad oedd unrhyw fai ar Kaká, ac nad oedd unrhyw obaith bod y dyfarnwr, Stephane Lannoy, wedi gweld y digwyddiad.

Er yr anghyfiawnder bydd Kaká yn methu gêm olaf ei wlad yng Ngrŵp G yn erbyn Portiwgal nos Wener nesaf.