Mae ymgyrch Ffrainc yng Nghwpan y Byd yn mynd o ddrwg i waeth wedi i chwaraewyr y tîm lansio protest yn erbyn eu rheolwyr heddiw.
Mae’r chwaraewyr wedi rhyddhau datganiad sy’n condemnio’r penderfyniad i anfon ymosodwr Chelsea, Nicolas Anelka, adref o’r gystadleuaeth. Cafodd y chwaraewr 31 oed ei yrru adref fel cosb gan y gymdeithas bêl-droed am ei ymosodiad geiriol yn erbyn rheolwr y tîm, Raymond Domenech, yn ystod egwyl hanner amser eu gêm yn erbyn Mecsico. Collodd Ffrainc y gêm honno nos Iau o 2-0 ac roedd y chwaraewyr yn amlwg yn anhapus ar y cae.
Gwrthod hyfforddi
Mae’n debyg i gapten Ffrainc, Patrice Evra, ffraeo gyda’r hyfforddwr ffitrwydd, Robert Duverne, wedi ychydig funudau o hyfforddi y bore yma, ac i weddill y tîm ei ddilyn o’r sesiwn hyfforddi i fws y tîm.
Yno cafwyd cyfarfod rhwng y chwaraewyr a Domenech a darllenodd yntau’r datganiad gan y tîm. “Mae pob aelod o’r tîm am ddatgan eu gwrthwynebiad i benderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Ffrainc i wahardd Nicolas Anelka” meddai’r datganiad.
“Maen nhw’n teimlo nad yw’r Gymdeithas wedi amddiffyn y chwaraewyr mewn unrhyw fodd.”
Er hyn, maen nhw wedi addo “i wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod Ffrainc yn adennill eu parch nos Fawrth”, pan fyddan nhw’n herio De Affrica yng ngêm olaf y grŵp.
Cyhoeddodd cyfarwyddwr tîm Ffrainc, Jean-Louis Valentin, ei ymddiswyddiad ar ôl cyhoeddi fod y tîm wedi gwrthod hyfforddi.
Lluniau: Gwifren PA/Francois Mori