Yr Eidal 1 – 1 Seland Newydd
Slofacia 0 – 2 Paraguay

Sicrhaodd tîm pêl-droed Seland Newydd y canlyniad gorau yn eu hanes heddiw, gyda gêm gyfartal yn erbyn pencampwyr y byd, Yr Eidal.

Roedd eu gêm gyfartal yn erbyn Slofacia ddydd Mawrth diwethaf yn ganlyniad nodweddiadol, ond aethant un yn well heddiw yn stadiwm Nelspuit.
Gôl gynnar i fynd ar y blaen.

Roedd y tîm o hemisffer y de yn arwain wedi dim ond 7 munud – Shane Smeltz yn taro’r bêl i’r rhwyd wedi cic rydd beryglus gan Simon Elliot a wyrodd oddi ar gapten Yr Eidal, Fabio Cannavaro, o bawb i’w lwybr.

Gallai’r Eidal fod wedi dod â’r sgôr yn gyfartal funudau wedyn o gic rydd Riccardo Montolivo, ond arbedodd golwr Seland Newydd, Mark Paston, yn dda dan bwysau.

Daeth Montolivo yn agos eto wrth iddo grymanu ergyd 30 llath yn erbyn y trawst.
Er gwaetha’r sgôr yr Eidal oedd yn rheoli’r gêm a daeth eu gwobr wedi 29 munud wrth i’r dyfarnwr roi cic o’r smotyn am drosedd ar Daniele De Rossi gan Tommy Smith o Ipswich Town. Vincenzo Iaquinta rwydodd o’r smotyn.

Yr Eidal yn rheoli’r ail hanner

Parhaodd y gêm yn yr un natur wedi’r hanner wrth i’r Eidal bwyso am gôl fuddugol, tra bod amddiffyn arwrol Seland Newydd yn gwneud popeth o fewn eu gallu i’w hatal.
Daeth Montalivio a Mauro Camoranesi ill dau yn agos gydag ergydion, ond methu â churo Paston yn y gôl oedd eu hanes.

Er gwaethaf goruchafiaeth yr Azzuri, Seland Newydd ddaeth agosaf i gipio’r fuddugoliaeth wrth i ymosodwr deunaw oed West Bromwich Albion wneud ffŵl o Cannavaro, ond heibio i’r postyn aeth ei ergyd troed chwith.

Roedd y sgôr gyfartal yn teimlo fel buddugoliaeth i’r crysau gwynion, ond mae’n gadael y pencampwyr mewn sefyllfa gas lle bydd rhaid iddyn nhw ennill eu gêm olaf yn erbyn Slofacia i fod yn sicr o gyrraedd yr un ar bymtheg olaf.

Paraguay yn drech na Slofacia

Yng ngêm arall Grŵp F, llwyddodd Paraguay i guro Slofacia yn gyfforddus yn Bloemfontein. Enrique Vera wedi 27 munud, ac ail gôl hwyr gan Carlos Riveros aeth â’r gŵyr o Dde America i frig y grŵp a hwy fydd y ffefrynnau i aros yno cyn y rownd olaf o gemau.

Os mai Paraguay fydd yn cipio’r grŵp, yna byddan nhw’n chwarae Siapan neu Ddenmarc yn y rownd nesaf. Os fydd yr Eidal yn fuddugol yn eu gêm olaf hwy, yna bydd rhaid iddyn nhw herio un o’r ffefrynnau sef yr Iseldiroedd.